Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd 2026

Mae Cymru wedi cyrraedd croesffordd hanfodol bwysig, ym mhle mae gweithredu trawsnewidiol o ran yr hinsawdd, byd natur, a chymunedau, yn fater o frys ac yn gyraeddadwy. Bydd gwireddu uchelgeisiau ar gyfer Cymru gydnerth yn gofyn am gyllid sefydlog a buddsoddiad, ynghyd â rheoleiddio cryf ac annibynnol, system fonitro a data cadarn, ymdrech draws-sector i gyflawni atebion ar sail natur, a buddsoddiad yn ein gweithlu gwyrdd.

Mae CIEEM yn cefnogi llywodraethau a phenderfynwyr gyda’r gwaith o greu a gweithredu polisïau drwy ddarparu cyngor annibynnol, ar sail tystiolaeth, gan ymarferwyr ecolegol. Rydym yn barod i gefnogi’r gwaith o ddylunio atebion ymarferol, dichonadwy, yn seiliedig ar arferion gorau, sy’n sicrhau buddion hirdymor ar gyfer pobl Cymru a’n hamgylchedd naturiol.

Datblygwyd y ddogfen hon gan Grŵp Polisi Cymru CIEEM mewn cydweithrediad â Thîm Polisïau CIEEM.